Etholiad y Senedd 2026

Ymgeiswyr etholiad y Senedd:

cefnogi pobl gydag arthritis  

Mae bron i 1 miliwn o oedolion, pobl ifanc a phlant yng Nghymru’n byw gyda chyflwr Cyhyrysgerbydol fel arthritis. Felly, mae hynny’n bron i 1 miliwn o bobl yn byw gyda’r boen ddyddiol, y blinder a’r anableddau y gallan nhw eu hachosi.

Rhaid i Senedd a Llywodraeth nesaf Cymru wynebu’r argyfwng iechyd cyhoeddus yn uniongyrchol. Ac mae angen eich cymorth chi arnom ni i gyflawni hyn.

Fel Aelod o’r Senedd yn y dyfodol, byddwch yn lleisio’ch barn dros bobl sydd ag arthritis.  

Llofnodwch ein haddewid heddiw ac ymrwymwch i hyrwyddo anghenion pobl ag arthritis, yn lleol ac yn y Senedd.

Eich addewid

“Os byddaf yn cael fy ethol, rydw i’n addo i eirioli dros anghenion pobl gydag arthritis yn fy etholaeth.”